Y Canghellor Philip Hammond
Mae’r bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith andwyol ar economi’r DU ond ni fydd cyllideb frys, meddai’r Canghellor newydd heddiw.

Dywedodd Philip Hammond fod canlyniad y refferendwm wedi achosi “sioc” economaidd ac nid yw’n diystyru’r posibilrwydd o weld yr economi’n arafu.

Ond fe fydd y Llywodraeth newydd yn gwneud “beth bynnag sydd ei angen” i gadw’r economi ar y trywydd iawn, meddai.

Roedd Philip Hammond yn siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 pan ddywedodd bod hyder mewn buddsoddiadau, creu swyddi a busnes i gyd wedi cael eu heffeithio ers canlyniad y refferendwm.

Heddiw, bydd Philip Hammond yn cyfarfod llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, sy’n debygol o ostwng cyfraddau llog o 0.5% i 0.24% yn ystod y dydd.

Bydd Theresa May yn parhau i benodi ei chabinet heddiw yn dilyn ei  noson gyntaf yn Rhif 10 Downing Street fel Prif Weinidog.

Y sioc fwyaf hyd yma oedd penodiad un o brif ymgyrchwyr Brexit, Boris Johnson, yn Ysgrifennydd Tramor.

Yr Alban a’r UE

Dywedodd Philip Hammond ar raglen radio Good Morning Scotland na ddylai’r Alban fod â pherthynas gwahanol gydag Ewrop o’i gymharu â gweddill y DU.

Meddai fod bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn “benderfyniad democrataidd” a wnaed gan y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Mae’r sylw’n ergyd i Brif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon sydd wedi bod yn gwneud achos dros yr Alban i gadw ei gysylltiadau gydag Ewrop ar ôl i’r rhan fwyaf o etholwyr  y wlad bleidleisio i aros yn yr UE.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes yn gweithio ar ddeddfwriaeth y byddai ei hangen ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth gan fod gweinidogion yn teimlo mai gadael y DU yw’r unig ffordd i gadw’r Alban yn rhan o’r UE.

Ond dywedodd Philip Hammond mai’r dyfodol gorau i’r Alban yw parhau “y tu mewn i economi’r Deyrnas Unedig”.