David Cameron Llun: PA
Fe fydd David Cameron yn cynnal ei gyfarfod |Cabinet olaf fel Prif Weinidog heddiw wrth i’w olynydd Theresa May benodi ei thîm newydd.

Mae disgwyl i Theresa May ddod yn Brif Weinidog nos Fercher, ar ôl i David Cameron ateb cwestiynau’r Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin am y tro olaf cyn mynd i Balas  Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad i’r Frenhines.

Fe fydd Cameron yn cadeirio cyfarfod i ffarwelio a gweinidogion ei Gabinet heddiw.

Cafodd Theresa May ei chadarnhau yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ddydd Llun yn dilyn tro annisgwyl  pan gyhoeddodd yr ail ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth, Andrea Leadsom, ei bod yn tynnu ei henw yn ôl.

Mae hi wedi cael tua 48 awr i baratoi ei thîm newydd  i arwain y Llywodraeth, ac mae’n debyg bod safle’r Canghellor George Osborne yn y fantol, yn dilyn y bleidlais Brexit.

Cyn iddi gyrraedd Rhif 10, mae hi eisoes yn wynebu galwadau i gynnal etholiad cyffredinol brys gyda Phlaid Cymru a Llafur yn dweud ei bod yn “hanfodol” bod gan y DU “Brif Weinidog sydd wedi’i hethol yn ddemocrataidd” mewn cyfnod o ansefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol.

Mae Theresa May wedi rhoi addewid i “weithredu ewyllys y bobl” a sicrhau bod y DU yn cael y cytundeb gorau yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Er iddi ymgyrchu o blaid aros yn yr UE, mae Theresa May wedi mynnu bod “Brexit yn golygu Brexit.”

Mae David Cameron wedi dweud y bydd yn rhoi ei gefnogaeth lawn i Theresa May, 59, a’i bod yn arweinydd “cryf a chymwys”.