Yr Arglwydd Peter Hain
Mae grŵp newydd o wleidyddion profiadol wedi cael ei sefydlu er mwyn ceisio uno’r Deyrnas Unedig drwy greu undeb ffederal.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys yr Arglwydd Peter Hain, cyn-Ysgrifennydd Cymru, wedi ffurfio er mwyn atal gwledydd Prydain rhag chwalu yn dilyn pleidlais Brexit.

Fe wnaeth Cymru a Lloegr bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond fe wnaeth yr Alban a Gogledd Iwerddon benderfynu aros, sydd wedi codi cwestiynau mawr dros ddyfodol y DU.

Byddai sefydlu system ffederal yn newid y ffordd y mae Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu llywodraethu’n llwyr, gan greu llywodraeth gwbl ddatganoledig a sofraniaeth lawn ymhob un o’r gwledydd.

Byddai hynny’n golygu lleihau nifer yr Aelodau Seneddol yn San Steffan i 146, o’r 650 sydd yno ar hyn o bryd.

Penderfyniad y gwledydd unigol fydd dewis pa faterion fyddan nhw am ddelio â nhw gyda’i gilydd a pha rhai fyddai’n well eu datganoli.

Ar hyn o bryd, mae sofraniaeth yn aros gyda’r Senedd yn Llundain, gyda materion gwahanol yn cael eu datganoli bob yn dipyn.

Tawelu galwadau am Alban annibynnol

Trwy geisio am y system ffederal hon, mae’r Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad (Constitution Reform Group), yn cydnabod mai un o’i obeithion yw tawelu’r galwadau am annibyniaeth i’r Alban.

“Mae’r amser am newid radical wedi dod. Mae angen deddf uno newydd ar y wlad hon,” meddai’r Arglwydd Salisbury wrth y Guardian, cyn-aelod o Gabinet y Ceidwadwyr, a ddechreuodd y grŵp.

“Rydym mewn byd gwahanol yn dilyn pleidlais Brexit. Mae angen newid strwythur y Deyrnas Unedig o’r dull o’r top i’r gwaelod.

“Rydym yn credu y bydd ein dull sydd wedi’i seilio ar gydsyniad yn creu undeb cryfach na’r un sydd gennym ar hyn o bryd, sydd dan fygythiad.”

Yn ogystal â Peter Hain a’r Arglwydd Salisbury, mae’r comisiwn yn cynnwys cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Menzies Campbell, cyn-glerc Tŷ’r Cyffredin, yr Arglwydd Lisvane a chyn-wleidydd Unoliaethwyr Ulster, David Burnside.

Yn ôl y Guardian, mae’r grŵp yn dweud hefyd bod ganddyn nhw gefnogaeth y prif weinidog Ceidwadol, Syr John Major a chadeirydd presennol Pwyllgor 1922 y Ceidwadwyr, Graham Brady.

Deddf Uno newydd?

Mae ei gynigion wedi cael eu llunio mewn Deddf Uno newydd, ac mae disgwyl iddi gael ei chyflwyno’r wythnos hon.

Yn ôl gwefan y Guardian, os bydd y ddeddf yn cael ei chymeradwyo, gallai ddod i rym dim ond os bydd yn cael ei phasio gan bob gwlad mewn refferendwm i’r DU gyfan o fewn 14 mis.

O ran materion a fyddai’n cael eu rhannu gan y Deyrnas Unedig i gyd, mae’r grŵp yn argymell y byddai’r frenhiniaeth yn aros fel pennaeth y wladwriaeth, y byddai’r gwledydd yn dal i rannu’r un arian, ac y bydd yna’r un system fancio hefyd.

Byddai materion eraill yn cael eu rhannu’n ganolog hefyd fel materion tramor, amddiffyn, diogelwch cenedlaethol, mewnfudo, hawliau dynol, cytundebau rhyngwladol, y Goruchaf Lys, pwerau treth incwm a chorfforaethol a’r gwasanaeth sifil.