Theresa May Llun PA
Mae Theresa May yn wynebu galwadau am gynnal etholiad cyffredinol brys ar ôl sicrhau ei lle fel prif weinidog nesa’ y Deyrnas Unedig, yn dilyn penderfyniad annisgwyl Andrea Leadsom i dynnu ei henw yn ôl.

Yr Ysgrifennydd Cartref fyddai’r ail fenyw yn hanes Prydain i fod yn y swydd ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn mynnu y dylid cynnal etholiad cyffredinol.

Mae cydlynydd etholiadol y Blaid Lafur Jon Trickett hefyd wedi dweud ei fod yn paratoi’r blaid ar gyfer etholiad cyffredinol, ar yr un diwrnod y mae Angela Eagle wedi dechrau ymgyrch ffurfiol i herio arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i’r unig ymgeisydd arall yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, Andrea Leadsom, gyhoeddi prynhawn ma ei bod yn tynnu ei henw yn ôl.

Ymgynghori

Mae cadeirydd pwyllgor 1922 y Ceidwadwyr, Graham Brady, wedi dweud nad oes angen cynnal ail bleidlais am yr arweinyddiaeth, sy’n golygu mai Theresa May fydd yn olynu David Cameron fel Prif Weinidog nesa’ Prydain.

Ond fe wnaeth Graham Brady ddweud hefyd ei fod yn gorfod ymgynghori â bwrdd gweithredol y blaid cyn cadarnhau hyn yn ffurfiol.

Dywedodd bod Downing Street a Phalas Buckingham wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad.

Mae Cameron wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ddydd Mercher.

Nid oedd disgwyl i Brif Weinidog newydd gael ei benodi tan 9 Medi.

Disgwyl datganiad gan Theresa May

Mae disgwyl datganiad gan Theresa May ar ôl iddi gyrraedd nôl yn Llundain prynhawn ma, ar ôl bod ym Mirmingham i lansio ei hymgyrch cenedlaethol.

Fe gyhoeddodd y gweinidog ynni, Andrea Leadsom, ei bod yn rhoi’r gorau i’w hymgyrch yn fuan ar ôl iddi ymddiheuro i Theresa May am unrhyw loes a achoswyd yn sgil cyfweliad lle’r oedd yn awgrymu ei bod yn fwy cymwys i fod yn Brif Weinidog gan fod ganddi blant. Does dim plant gan Theresa May.

Fe wnaeth hi ddatgan ei “chefnogaeth lawn” i’r Ysgrifennydd Cartref, wrth gyhoeddi ei bwriad i sefyll o’r neilltu.

Mae Michael Gove, a ddaeth yn drydydd yn y ras, wedi dweud bod angen “gweithredu mor gyflym â phosib i sicrhau gall Theresa May ddod yn arweinydd.”

Mae ymgyrchydd blaenllaw Brexit Boris Johnson hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i Theresa May.