Andrea Leadsom a Theresa May (llun: PA)
Mae ffrae chwerw o fewn y Blaid Dorïaidd ar ôl i un o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth awgrymu ei bod yn well na’r llall oherwydd bod ganddi blant.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd The Times, caiff Andrea Leadsom ei dyfynnu’n cyfeirio at y ffaith fod ganddi dri o blant, ac nad oes gan ei gwrthwynebydd, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, ddim plant.

“Mae’n bosib fod gan Theresa May neiaint a nithoedd … Ond mae gen i blant a dw i’n credu bod bod yn fam yn golygu fod gennych chi ran yn nyfodol ein gwlad.”

Mae Andrea Leadsom yn gwadu bod yr adroddiad yn adlewyrchu ei barn, ac mae’n cyhuddo’r papur newydd o “newyddiaduriaeth y gwter”.

Mae Rachel Syllvester, y gohebydd a fu’n ei chyfweld, fodd bynnag wedi cyhoeddi recordiad o’i sylwadau, ac yn mynnu mai Leadsom ei hun a gododd y pwnc yn ddigymell yn ei chyfweliad.

Sylwadau’n cythruddo

Dywed yr Ysgrifennydd Busnes Anna Soubry fod sylwadau Andrea Leadsom yn golygu nad yw’n ffit i fod yn Brif Weinidog.

“Mae’r cyfweliad heddiw’n dangos nad yw hi’n ddeunydd Prif Weinidog,” meddai. “Dylai wneud ffafr gyda ni i gyd gan gynnwys ei hun a chamu o’r neilltu.

“Mae arnom angen prif weinidog gyda phrofiad gwirioneddol ar y lefel uchaf, gallu wedi ei brofi a phâr diogel o ddwylo – Theresa May.”

Mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson, hefyd wedi wfftio at sylwadau Andrea Leadsom.

“Dw i’n ddi-blant,” meddai. “Mae gen i neiaint a nithoedd. Dw i’n credu bod gen i – fel pawb arall – ran go-iawn yn ein gwlad.”