(llun: Ben Birchall/PA)
Parhau’n ansicr y mae dyfodol gwaith dur Port Talbot er bod y perchnogion, Tata, wedi penderfynu peidio â’i werthu am y tro.

Dywed Tata eu bod wedi cychwyn trafodaethau gyda phartneriaid posibl ar gyfer eu busnesau yn Ewrop, ond ei bod yn rhy gynnar i gadarnhau a fuon nhw’n llwyddiannus ai peidio.

Yn ôl cyfarwyddwr gweithredol y grŵp, Kouhsik Chatterjee, byddai llwyddiant cynllun o’r fath yn dibynnu ar ddatrys rhwymedigaethau cynllun pensiwn Dur Prydain, trafodaethau gyda’r undebau a chymorth gan lywodraethau Prydain a Chymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fod cyhoeddiad Tata yn newyddion ‘calonogol’:

“Mae Llywodraeth Prydain yn benderfynol o sicrhau dyfodol hirdymor i wneud dur yn ne Cymru, a dw i’n gwneud popeth yn fy ngallu i helpu’r miloedd o bobl sy’n dibynnu ar Port Talbot am eu bywoliaeth,” meddai.

“Mae’r cyhoeddiad am fenter ar y cyd yn ganologol, ac fe fydda i’n dal ati i weithio’n agos gyda Tata i sicrhau’r cytundeb gorau bosibl i’r gweithwyr caled yng Nghymru sy’n helpu gwneud dur Prydain y gorau yn y byd.”

Undebau’n bryderus

Mae undebau llafur wedi mynegi pryder bod yr ansicrwydd yn parhau.

“Mae statws presennol y broses werthu yn aneglur, ac fe fydd hyn yn rhwystredig i’n haelodau,” meddai Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol Community.

“Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd yr ansicrwydd yn parhau i filoedd o weithwyr dur a’u teuluoedd.

“Mae’n hanfodol fod Tata yn gweithio gyda Community i sicrhau ac amddiffyn ased mwya’r busnes – sef ei bobl.”

Roedd pryderon tebyg gan yr undeb Unite hefyd.

“Fe fydd gweithwyr yn Port Talbot eisiau gwybod yn union beth yw cynllluniau hirdymor Tata,” meddai Harish Patel, swyddog cenedlaethol Unite.

“Fe fydd Unite yn pwyso ar Tata am warantau cadarn ynghylch ei fwriadau ar gyfer Port Talbot. Rhaid i’r ansicrwydd ddod i ben.”