George Osborne
Mae George Osborne yn bwriadu gostwng treth gorfforaethol i lai na 15% mewn ymdrech i roi hwb i Brydain wedi’r bleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd y Canghellor bod yn rhaid i’r DU ei bod yn “dal ar agor” i fusnesau wrth iddo amlinellu ei gynlluniau i greu “economi gystadleuol.”
Byddai gostwng y dreth o 5% yn gwneud Prydain yn un o’r economïau mwyaf cystadleuol yn y byd.
Dywedodd George Osborne wrth y Finanical Times bod yn rhaid canolbwyntio “ar y daith sydd o’n blaenau” a’r penderfyniad sydd wedi cael ei wneud.
Mae’r Canghellor yn awyddus i ganolbwyntio ar ddenu buddsoddiad o China yn ogystal â sicrhau cefnogaeth ar gyfer benthyciadau gan fanciau, a sefydlogi’r economi yn sgil canlyniad y refferendwm.
Roedd George Osborne wedi bygwth cynnal cyllideb frys petai Prydain yn pleidleisio dros adael yr UE, ond dywedodd wrth y Finanical Times y byddai’n aros am y rhagolygon swyddogol cyn cyflwyno unrhyw fesurau newydd.
Ychwanegodd bod Prydain yn wynebu “cyfnod heriol iawn”.