Fe fyddai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth petai refferendwm yn cael ei gynnal heddiw, yn ôl arolwg barn newydd sydd wedi’i gynnal yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r arolwg ar ran y Daily Record yn dangos bod newid wedi bod yn y farn gyhoeddus, gyda 53.7% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio o blaid annibyniaeth i’r Alban a 46.3% o blaid aros yn rhan o’r DU.
Gan gynnwys y rhai oedd heb benderfynu, y ffigurau oedd 47.8% o blaid annibyniaeth, a 41.3% yn gwrthwynebu.
Roedd pleidleiswyr yn yr Alban wedi gwrthod annibyniaeth o 55% i 45% mewn refferendwm ym mis Medi 2014.
Ond cafodd yr arolwg diweddaraf ei gynnal ar ôl i’r DU bleidleisio ddydd Iau dros adael yr UE o 52% i 48%. Serch hynny, roedd 62% o bobl yr Alban wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb, a 38% o blaid gadael.
Yn sgil hynny, mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud bod pleidlais ar annibyniaeth i’r Alban bellach yn “debygol iawn” ac mae hi wedi rhybuddio ei bod yn ystyried gofyn i Holyrood atal y DU rhag gadael Ewrop os yw Aelodau Seneddol yr Alban yn gorfod rhoi cefnogaeth ffurfiol i Brexit.
Ond mae Ysgrifennydd yr Alban David Mundell wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o fanteisio ar y cyfle i wthio “agenda annibyniaeth”.
Mae canlyniadau’r pôl piniwn diweddaraf wedi’i seilio ar ymatebion 1,002 o oedolion a gafodd eu holi dros y penwythnos.