Corbyn yn wynebu gwrthdystiad oddi mewn i'r Blaid Lafur
Mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur yn San Steffan, Heidi Alexander wedi ymddiswyddo yn dilyn diswyddo Hilary Benn o’r cabinet cysgodol.
Wrth gyhoeddi ei hymddiswyddiad ar Twitter, dywedodd Alexander ei bod hi’n gwneud hynny â “chalon drom”.
Yn ei llythyr, dywedodd wrth Corbyn: “Cymaint ag ydw i’n eich parchu chi fel dyn egwyddorol, dydw i ddim yn credu eich bod yn gallu ffurfio’r atebion y mae ein gwlad yn gofyn amdanyn nhw ac rwy’n credu os ydyn ni am ffurfio’r llywodraeth nesaf, fod newid arweinydd yn hanfodol.”
Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae bron i hanner y cabinet cysgodol yn barod i ymddiswyddo.
Ychwanegodd Alexander: “Mae angen gwrthblaid gref ar y sawl a fydd yn cael eu taro waethaf gan y sioc economaidd sy’n gysylltiedig â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel sydd ei angen ar y cymunedau hynny sy’n ofni lefelau cynyddol o anoddefgarwch, casineb a rhaniadau.”
Diolchodd hi am y “cyfle i wasanaethu’r cabinet cysgodol”.