David Cameron - yn mynd (o'i dudalen Facebook)
MaePrif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo o fewn y tri mis nesa’.

Ar ôl canlyniadau Refferendwm Ewrop, fe ddywedodd fod angen Prif Weinidog newydd erbyn y Gynhadledd Geidwadol.

Fe ddywedodd hefyd mai’r Prif Weinidog newydd ddylai ddechrau’r broses ddwy flynedd o adael yr Undeb Ewropeaidd – mae hynny’n golygu na fydd dim yn digwydd yn y cyfamser.

Ond mae wedi addo y bydd Llywodraeth Cymru – a’r Alban a Gogledd Iwerddon – yn cael llais llawn yn y trafodaethau i benderfynu ar y strategaeth.

‘Saffach i mewn’

Cyn y bleidlais, roedd David Cameron wedi mynnu na fyddai’n rhaid iddo fynd ac y byddai’n dechrau’r broses adael ar unwaith, pebai gwledydd Prydain yn pleidleisio tros adael.

Gyda’i wraig Samantha wrth ei ochr y tu allan i rif 10 Downing Street, fe ddywedodd David Cameron ei fod wedi ymladd y refferendwm, gyda’i “galon, ben ac enaid”.

Ac fe ddywedodd eto ei fod yn sicr bod gwledydd Prydain yn “saffach, yn gryfach ac yn well” y tu mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd yn mynd i gyfarfod o arweinwyr gwledydd yr Undeb yr wythnos nesa’.