Llun: PA
Mae ymgyrchwyr dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) wedi rhybuddio y bydd gan bleidleiswyr lai o arian yn eu pocedi os yw Prydain yn gadael yr undeb.

Mae undebau wedi rhybuddio bod teuluoedd yn wynebu bil o £580 yn ychwanegol y flwyddyn os yw’r DU yn pleidleisio o blaid Brexit, ac mae cyn-benaethiaid manwerthu wedi dweud y byddai effaith gadael yr Undeb yn “gatastroffig.”

Mewn llythyr agored, mae’r cyn-benaethiaid gan gynnwys Syr Terry Leahy o Tesco, Marc Bolland o Marks and Spencer, a Syr Justin King o Sainsbury’s wedi rhybuddio am gostau ychwanegol.

“Rydym yn credu’n gryf y bydd Brexit yn golygu llai o arian ym mhocedi pobl ac y byddai’n gatastroffig i filiynau o deuluoedd.”

Yn y cyfamser mae cyn-ymgynghorydd polisi David Cameron yn honni bod y Prif Weinidog wedi cael gwybod pedair blynedd yn ôl y byddai’n “amhosib” i’r Llywodraeth gwrdd â’i haddewidion ynglŷn â mewnfudo petai’r DU yn parhau yn aelod o’r UE.

Dywedodd ymgyrchydd Leave, Steve Hilton bod gweision sifil wedi esbonio’n “uniongyrchol ac yn hollol glir” y byddai addewid i ostwng nifer y mewnfudwyr i’r DU yn methu.

Mae David Cameron wedi rhoi addewid i ostwng nifer y mewnfudwyr i lai na 100,000 ond fis diwethaf roedd y ffigwr wedi cyrraedd 333,000.