Donald Trump (Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Prydeiniwr ifanc, sydd wedi’i gyhuddo o geisio cymryd gwn swyddog yr heddlu mewn ymgais i ladd Donald Trump, wedi ymddangos yn y llys yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd Michael Steven Sandford, 20, ei arestio yn ystod rali  mewn casino yn Las Vegas ddydd Sadwrn ar ôl rhuthro at y gwn wrth iddo ofyn am lofnod ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr.

Roedd Sandford, a oedd yn yr Unol Daleithiau heb ganiatâd, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod eisiau lladd Donald Trump, yn ôl y Gwasanaethau Cudd.