Mae cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr wedi dweud na fydd yn cefnogi’r ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd bellach.

Dywedodd y Farwnes Varsi bod lleisiau cymedrol ymgyrch Brexit yn cael eu boddi gan ymgyrchwyr “celwyddog a senoffobig.”

Ychwanegodd bod ei phenderfyniad i newid o’r ymgyrch dros adael i’r ymgyrch dros aros yn yr UE wedi dod yn sgil poster “anesgusodol” gan arweinydd Ukip, Nigel Farage, a “chelwyddau” Michael Gove ynglŷn â’r posibilrwydd o Dwrci yn ymuno a’r Undeb.

Mae poster Ukip yn dangos ffoaduriaid yn cerdded drwy gefn gwlad Ewrop.

Ond yn ôl uwch swyddogion yr ymgyrch dros adael yr Undeb nid oedan nhw’n ymwybodol ei bod yn cefnogi’r ymgyrch yn y lle cyntaf.

Daw’r datblygiad yn dilyn oedi yn yr ymgyrchu yn sgil marwolaeth yr AS Llafur Jo Cox ddydd Iau diwethaf. Ond fe fydd yr ymgyrchu yn ail-ddechrau o ddifrif heddiw.