Cyngor Sir Gâr
Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyfarfod y bore ‘ma i drafod dyfodol Ysgol Gynradd Llangennech ymhellach.

Mae cynlluniau ar y gweill i droi’r ysgol ger Llanelli yn un gyfan gwbl Gymraeg, gan ddiddymu ffrwd Saesneg yr ysgol.

Ond mae ‘na wrthwynebiad lleol wedi bod, gyda grŵp o rieni yn dweud y byddai’r newid yn effeithio ar addysg eu plant a fyddai’n gorfod teithio i ysgol arall i gael addysg Saesneg.

Mae disgwyl i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr gyfarfod heddiw i ateb rhai cwestiynau am y cynllun, ond does dim disgwyl penderfyniad terfynol ar y mater.

Hyd yn hyn, mae 373 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar y Cyngor i “gadw dewis y rhieni”, yn hytrach na “gorfodi” addysg Gymraeg ar y gymuned.

Diwedd mis Mai, fe wnaeth Bwrdd Craffu’r Cyngor Sir dderbyn cynnig i fwrw ymlaen â’r cynllun, ond dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor na fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am gyfnod hir.