Mae pedwar o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddyn 20 oed gael ei ladd yn ne Lloegr.

Mae Heddlu Sussex yn dweud y bu’r dyn farw o ganlyniad i gael ei drywanu. Fe gafodd y gwasanaethau brys wedi’u galw i Crawley yn ystod oriau mân fore Sadwrn.

Yn ôl yr heddlu eto, fe dderbyniodd y dyn, sy’n hanu o Crawley, driniaeth i glwyf yn ei abdomen, ond bu farw ymhen ychydig yn yr ysbyty.

Mae dwy ddynes, 24 a 22 oed, ynghyd â dau ddyn 20 oed, y rhain i gyd o Crawley, wedi’u dwyn i’r ddalfa.