Llyfrgell Birstall lle'r oedd Jo Cox yn cynnal cymorthfa (Betty Longbottom CCA 2.0)
Fe ddaeth galwadau am alw aelodau seneddol yn ôl i Dŷ’r Cyffredin er mwyn talu teyrngedau i’r AS Jo Cox a gafodd ei lladd ar y stryd ddoe.

Fe gafodd gwylnosau eu cynnal mewn sawl lle neithwir ar ôl i’r newydd ddod ei bod wedi cael ei thrywanu a’i saethu’n farw wedi iddi fod yn cynnal cymorthfa mewn llyfrgell yn Birstall ger Leeds.

Mae ymgyrchu yn refferendwm Ewrop wedi cael ei atal yn llwyr wrth i wleidyddion ar draws y byd anfon negeseuon cydymdeimlad.

Roedd y Senedd ar wyliau oherwydd yr ymgyrchu ond mae rhai ASau’n galw bellach am ail-alw aelodau i Dŷ’r Cyffredin.

Dyn yn cael ei holi

Mae dyn 52 oed yn dal i gael ei holi gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog – yn ôl pobol leol yn etholaeth Batley a Spen, mae Tommy Mair yn un sy’n cadw’i gwmni ei hun.

Yn ôl llygad dyst roedd wedi gweithio rhywbeth tebyg i “Britain First” wrth ymosod ar yr AS 41 oed.

Mae’r mudiad asgell dde Britain First wedi gwadu pob cysylltiad â’r digwyddiad gan ddweud na fydden nhw’n godde’ ymddygiad o’r fath.

Teyrngedau tros y byd

Mae teyrngedau wedi dod gan nifer o arweinwyr bydeang, gan gynnwys prif weinidogion Canada, Awstralia ac Iwerddon.

Ac fe ddaeth un o’r negeseuon cryfa’ gan yr ymgeisydd Democrataidd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.

“Mae’n hanfodol fod yr Unol Daleithiau  a gwledydd Prydain, dwy o wladwriaethau democrataidd hyna’ a mwya’r byd, yn sefyll ynghyd yn erbyn casineb a thrais,” meddai.

“Dyma sut y dylen ni anrhydeddu Jo Cox – trwy wrthod rhagfarn yn ei holl ffurfiau ac yn lle hynny, fel y byddai hi wastad yn gwneud, cofleidio popeth sy’n ein clymu ynghyd.”

  • Mae rhif 10 Downing Street wedi anfon neges at bob Aelod Seneddol yn eu hatgoffa o gyngor ynghylch eu diogelwch eu hunain.