Gorsaf Paddington - trafferthion (Geof Sheppard CCA3.0)
Fe fydd teithwyr trên rhwng Cymru a gorsaf Paddington yn Llundain yn wynebu trafferthion mawr heddiw ar ôl damwain yno.

Doedd dim trênau o gwbl i mewn ac allan o’r orsaf neithiwr a dim ond hanner y gwasanaethau arferol sy’n debyg o redeg heddiw.

Mae cwmni Great Western yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd amgylchiadau’n gwella yn ystod y dydd ond mae’r orsaf dan fwy o bwysau beth bynnag oherwydd teithwyr ar eu ffordd i’r rasio ceffylau yn Ascot.

Damwain

Fe ddigwyddodd yr anhrefn ar ôl i drên gwag gael ei yrru oddi ar y cledrau – ymateb diogelwch otomatig ar ôl iddo fynd trwy olau coch.

Dyw’r trên ddim wedi cael ei symud eto ac mae difrod wedi’i wneud hefyd i wifrau uwchben y lein ac yn ôl Great Western, maen nhw’n gweithio gyda pherchnogion y rheilffordd, Network Rail, i gywiro pethau.

“Rydym yn gweithio i gael pethau’n ôl i arfer mor ddiogel a chyflym â phosib, fodd bynnag mae’n debyg y bydd effaith ar wasanaethau oherwydd maint y difrod,” meddai llefarydd.