Jo Cox - 'pawb yn ei charu' (yui Mok PA)
Roedd gan yr Aelod Seneddol Jo Cox lawer o ffrindiau yn y Blaid Lafur Gymreig, meddai Prif Weinidog Cymru.

Carwyn Jones yw un o’r dwsinau o wleidyddion amlwg sydd wedi talu teyrnged i’r gwleidydd 41 oed a gafodd ei thrywanu a’i saethu’n farw ddoe.

Roedd AS Batley a Spen wedi bod yn ymgynghorydd i’r Farwnes Glenys Kinnock ac roedd yn rhannu swyddfa gyda mab y Farwnes, Stephen Kinnock, AS Aberafan.

Fe ddywedodd na fydd y Senedd “fyth yr un fath eto” a bod “pawb yn caru Jo Cox”.

‘Fel un o’r teulu’

Roedd ei dad, y cyn arweinydd Llafur, Neil Kinnock, yn dweud eu bod nhw’n ystyried y gwleidydd ifanc yn un o’u teulu – “fel nith annwyl”.

Roedd hi’n ddeallus iawn ac yn llawn brwdfrydedd, meddai, gan ddweud ei bod yn ymgyrchydd tros gyfiawnder ond heb ddim sych-dduwiol yn ei chylch.

“Ymroddiad llwyr a sicrwydd bwriad” oedd ei nodweddion amlwg, meddai AS De Caerdydd a Phenarth,  Stephen Doughty, a oedd wedi gweithio gyda hi yn elusen Oxfam ac wedi dod i’w hadnabod wrth ymgyrchu tros Ewrop flynyddoedd yn ol.

‘Angerdd’

Yn ôl Carwyn Jones roedd holl gyfeillion Llafur Jo Cox yng Nghymru yn edmygu ei hangerdd a’i hymroddiad i gyfiawnder cymdeithasol.

“Roedd Jo yn was cyhoeddus galluog, anhunanol a dewr a fu farw yn gwasanaethu ei chymuned ac mae ein meddyliau a’n gweddïau’n mynd at ei gŵr a’i theulu ifanc”.

Yn ôl Stephen Kinnock, roedd hi’n llawn optimistiaeth a gobaith a chymhestrwydd ac “mae’r galar yn fwy nag y gallwn ei gynnal”.

Fe gafodd ymgyrchu refferendwm Ewrop yng Nghymru ei atal ddoe pan ddaeth y newyddion am y lladd.