Y Canghellor George Osborne
Mae Canghellor San Steffan, George Osborne wedi rhybuddio y byddai angen codi trethi a gwneud toriadau gwerth £30 biliwn fel rhan o gyllideb frys pe bai Prydain yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Osborne a’r cyn-Ganghellor Llafur, Alistair Darling, fe fyddai cyllidebau ysgolion, ysbytai a’r lluoedd arfog i gyd yn cael eu torri pe bai’r refferendwm ar Fehefin 23 yn mynd o blaid y rhai sy’n cefnogi gadael.
Ond yn y cyfamser, mae 57 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi anfon llythyr at Osborne yn dweud na fyddan nhw’n pleidleisio o blaid Cyllideb frys.
Yn ôl Osborne, byddai:
– Cyfradd sylfaenol y dreth incwm yn codi 10% (22c yn y £1);
– Cyfradd ucha’r dreth incwm yn codi 3c i 43c;
– a’r dreth etifeddiaeth yn codi 5c i 45c yn y £1
– y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu toriadau gwerth £2.5 biliwn
– y Gyllideb Amddiffyn yn wynebu toriadau gwerth £1.2 biliwn
– y byd addysg yn wynebu toriadau gwerth £1.15 biliwn
Yn ôl y Canghellor, mae’r ffigurau’n seiliedig ar ragfynegiadau’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS), ond mae Ceidwadwyr sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud y bydden nhw’n barod i bleidleisio yn erbyn y fath Gyllideb frys.
Mae yna ddyfalu hefyd y gallai £2 biliwn gael ei dorri oddi ar bensiynau, ac fe allai’r Swyddfa Gartref, trafnidiaeth a llywodraeth leol wynebu toriadau gwerth £5.8 biliwn.
Mae disgwyl i drethi ar alcohol a thanwydd godi 5% yn ogystal, yn ôl Osborne.
Yn ôl Osborne, “byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn bwrw buddsoddiadau, yn niweidio teuluoedd ac yn niweidio economi Prydain”.
Ychwanegodd Darling y byddai gwledydd Prydain yn wynebu “blynyddoedd o ansicrwydd” pe bai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ymgyrchwyr tros Brexit
Mae Aelodau Seneddol sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud eu bod nhw’n barod i gyflwyno deddfwriaeth frys pe bai Prydain yn gadael Ewrop er mwyn sicrhau nad oes gan farnwyr llysoedd Ewrop yr hawl i farnu ar faterion Prydeinig.
Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling wedi amlinellu ei gynlluniau ôl-Brexit, gan nodi na fyddai’n rhaid i Brydain adael yn ffurfiol tan 2019.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys rhoi terfyn ar fasnachu rhydd er mwyn lleihau nifer y mewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain cyn ffurfioli’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Polau piniwn
Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu bod 46% yn barod i bleidleisio tros aros yn Ewrop, a 45% yn unig yn barod i adael.
Mae Grayling wedi cyhuddo Osborne o rybuddio am y Gyllideb fel ymateb i rai o’r polau diweddaraf sy’n awgrymu bod ‘Brexit’ ar y blaen.