Y cyn-Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol yn galw am ragor o gydweithio'n rhyngwladol
Mae cyn-Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth Prydain, Andrew Mitchell wedi dweud ei fod o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Y gwleidydd a wnaeth ganfod ei hun yng nghanol ffrae ‘Plebgate’ yn dilyn digwyddiad yn Stryd Downing yw’r olaf o’r gwleidyddion Prydeinig blaenllaw i ddangos ei ochr.
Ond wrth ddatgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch tros aros, galwodd Mitchell ar ei gyd-ymgyrchwyr i roi’r gorau i ladd ar gefnogwyr tros adael.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Times, dywedodd fod y dadleuon o blaid gadael Ewrop yn perthyn “i’r gorffennol”.
Dywedodd y byddai Rwsia wrth eu bodd pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd tra byddai’r Unol Daleithiau’n siomedig.
Ychwanegodd fod ganddo bryderon ynghylch masnachu a thlodi pe bai Prydain yn gadael.
Cydweithrediad
“Mae effeithiau globaleiddio a’r cyfan wnes i ddysgu o’m profiadau ym myd datblygiad rhyngwladol yn dadlau dros gydweithrediad rhyngwladol pellach.”
Fe gyfeiriodd at linell yn un o ganeuon y band The Clash: “’Should I stay or should I go now? If I stay there will be trouble – and if I go it will be double.'”