Mae dynes fu’n briod â Sheikh o Saudia Arabia wedi mynd i lys barn i hawlio £¼biliwn.

Yn dilyn ysgaru’r Sheikh Walid Juffali, mae Christina Estrada eisiau “chwarter biliwn o bunnau i gwrdd â’i anghenion”.

Mewn gwrandawiad cychwynnol yn yr Uchel Lys yn Llundain daeth i’r fei bod Ms Estrada, 54, yn hawlio’r arian a bydd gwrandawiad pum niwrnod i drafod yr achos ar Fehefin 24.

Fe barodd y briodas am 13 o flynyddoedd ac mae’r cyn-fodel calendr Pirelli yn mynnu ei bod angen y swm anferthol o arian er mwyn parhau i fyw’r bywyd bras y mae hi wedi dod i arfer ag o.

Mae Sheikh Juffali eisoes wedi gorfod talu ffortiwn mewn costau cyfreithiol wedi iddo geisio dadlau – yn aflwyddiannus – ei fod tu hwnt i gyfreithiau ysgaru, a hynny ar y sail ei fod yn ddiplomat yn cynrychioli ynys Saint Lucia yn y Caribî.