Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn wedi beio’r cyfryngau am ei broffil isel yn ystod ymgyrch ei blaid ar gyfer refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Daw ei sylwadau wedi i bennaeth un o undebau mwyaf Prydain, GMB, sef Tim Roache gyhuddo’r blaid o fod yn “dawel” ar faterion allweddol yn ystod yr ymgyrch.

Fe rybuddiodd Tim Roache y gallai’r ymgyrch i aros yn rhan o’r UE fethu ar Fehefin 23 os nad yw Llafur yn llwyddo i berswadio’u haelodau i bleidleisio.

Ychwanegodd fod angen i’r arweinyddiaeth fod yn “amlycach ac yn ddewrach” o ran cyflwyno’r achos tros fewnfudo.

Mae Jeremy Corbyn wedi’i gyhuddo o chwarae “rhan gyfyngedig” yn yr ymgyrch, ac mae wedi bod yn feirniadol o’r UE yn y gorffennol, gan bleidleisio yn erbyn aelodaeth o Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn 1975.

Hawliau gweithwyr

Er hyn, dywedodd Jeremy Corbyn fod y cyfryngau “a’r ffordd maen nhw’n gohebu” wedi cyfrannu at broffil ei ymgyrch.

Dywedodd ei fod wedi teithio ar hyd a lled y wlad, a’i fod yn ymweld â Chaerdydd fory, ac un o’i ddadleuon amlycaf tros aros yw diogelu hawliau gweithwyr.

“Rhai wythnosau’n ôl, fe ddywedais i wrth y Prif Weinidog fod yna angen am ddiwygio’r Postio Cyfarwyddeb Gweithwyr i fynd i’r afael â bwlch sy’n caniatáu i weithwyr  o wlad arall weithio mewn gwlad a chael eu talu’n llai na gweithwyr lleol sy’n gwneud yr un swydd,” meddai.

Dywedodd fod yr achosion hynny’n brin ond yn “tanseilio cydlyniad cymuned ac yn ecsbloetio gweithwyr sydd wedi ymfudo.”

‘Dwysáu ymdrechion’

Fe rybuddiodd Tim Roache y gallai cefnogwyr Llafur aros adref yn hytrach na phleidleisio ar Fehefin 23 “am nad ydyn nhw’n gweld pa mor hollbwysig yw’r bleidlais.”

Mae Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd a llefarydd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau’r blaid wedi dweud ei fod yn cytuno â sylwadau Tim Roache.

Dywedodd fod “peryg i bleidleiswyr Llafur weld hwn fel rhywbeth y mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn sôn amdano am y 30 mlynedd ddiwethaf ac nid rhywbeth sy’n eu heffeithio nhw.

“Fe fydda i’n erfyn ar Jeremy i ddwysáu ei ymdrechion,” meddai.