Llun: PA
Mae pump o bobl wedi marw yn dilyn llifogydd yn Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Belg wrth i afonydd orlifo’u glannau o Baris i Bafaria.
Mae disgwyl rhagor o law yn ystod y dyddiau nesaf mewn rhai ardaloedd.
Mae teithiau cychod ar hyd yr Afon Seine wedi cael eu canslo a nifer o ffyrdd ym Mharis o dan ddŵr, gan effeithio ymhellach ar deithwyr sydd hefyd wedi gorfod ymdopi gyda streic gan weithwyr trenau’r wythnos hon.
Mae’r glaw trwm hefyd wedi achosi oedi i dwrnament tenis Pencampwriaeth Agored Ffrainc ym Mharis.
Cafodd pump o bobl eu lladd oherwydd y llifogydd yng ngorllewin Ewrop yr wythnos hon gan gynnwys dynes 86 oed fu farw yn ei chartref yn Souppes-sur-Loing yn ne ddwyrain Paris.
Mae timau brys wedi bod yn symud trigolion o dref Nemours, tua 50 milltir i’r de o Baris.
Yn yr Almaen, bu farw pedwar o bobl yn y llifogydd ac mae adroddiadau am bobl eraill sydd ar goll.
Mae nifer o ardaloedd yng Ngwlad Belg hefyd o dan ddŵr yn dilyn pedwerydd diwrnod o law trwm.