Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad lle cafodd bachgen 16 oed ei saethu gyda gwn awyr tra’n chwarae mewn coedwig yn Ynysowen ym Merthyr Tudful.
Cafodd y bachgen ei gludo i’r ysbyty er mwyn cael pwythau yn ei ben yn dilyn y digwyddiad tua 9.30yh nos Sadwrn, 28 Mai.
Mae bellach wedi gadael yr ysbyty.
Cafodd ei saethu gan ddyn a oedd hefyd yn y goedwig ar y pryd.
‘Digwyddiad difrifol iawn’
Dywedodd yr Arolygydd Meirion Collings ei fod yn “ddigwyddiad difrifol iawn ac fe allai’r bachgen fod wedi cael anaf difrifol neu ei ladd.”
Maen nhw’n apelio ar ddau ddyn y credir oedd wedi cael eu gweld yn gadael y goedwig i gyfeiriad Troedyrhiw, i gysylltu â’r heddlu.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar
0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600195166.