Llun: Philip Toscano/PA Wire
Mae cwmni Austin Reed, sydd wedi bod yn gwerthu dillad dynion am 116 o flynyddoedd, wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n cau 120 o siopau ar draws y Deyrnas Unedig ar ol i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwr.

Fe fydd hyn yn gadael tua 1,000 o swyddi yn y fantol.

Mae adroddiadau bod perchennog Edinburgh Woollen Mill, Philip Day, wedi prynu pump o’r siopau, ond nad oedd am brynu ystâd gyfan y cwmni.

‘Penderfyniad anodd’

Dywedodd y gweinyddwr, AlixPartners, nad oedd “unrhyw gynigion hyfyw” eraill wedi’u cyflwyno i weddill y busnes.

“Rydym wedi archwilio’r holl opsiynau i werthu’r busnes ers inni gael ein penodi gan barhau i fasnachu’r busnes gyda chefnogaeth y credydwyr gwarantedig mewn amgylchedd hynod anodd i fanwerthu,” meddai Peter Saville ar ran AlixPartners.

“O ganlyniad, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd o ddod â masnachu’r busnes i ben.”

Fe aeth Austin Reed i ddwylo’r gweinyddwyr gyntaf ym mis Ebrill eleni, a daw hyn ymysg cyfnod anodd i siopau’r stryd fawr yn dilyn cyhoeddiad cwymp BHS ddiwedd mis Ebrill.

Fe allai tynged gwerthiant BHS gael ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon.