(llun: PA)
Mae un o gyn-benaethiaid y Llynges Frenhinol yn rhybuddio nad oes digon o gychwod i gadw gwyladwriaeth ddigonol ar arfordir Prydain.

Yn ôl yr Arglwydd West, dim ond tri o gychod patrol sydd ar gael ar gyfer 7,700 milltir o arfordir.

Mae hyn ar ôl i ddau gwch gael eu hanfon i’r Môr Canoldir i helpu gyda’r argyfwng ffoaduriaid yno.

Daw ei rybudd ar ôl i 18 o Albaniaid, gan gynnwys dau o blant, gael eu hachub o gwch a oedd yn suddo oddi ar arfordir Caint yn hwyr nos Sadwrn.

Dywed yr Arglwydd West fod y sefyllfa’n “llanast llwyr”.

“Rydym eisoes wedi gweld y mewnfudwyr anghyfreithlon hyn a dw i’n siwr fod smyglwyr yn defnyddio’r porthladdoedd llai ar eu cyfer, a dw i’n siwr fod terfysgwyr yn gwybod hyn hefyd,” meddai.

“Mae angen inni fynd i’r afael â hyn. Rydym yn gamblo na fydd dim byd byth yn digwydd yn ein moroedd, ond mae hynny’n farn anghyfrifol yn y byd peryglus yr ydym yn byw ynddo.”