Mae Aelod Seneddol yr SNP, Tasmina Ahmed-Sheikh wedi bod yn trafod ei phrofiadau o hiliaeth ers iddi gael ei hethol fis Mai diwethaf.
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ochil a De Sir Perth ei bod hi wedi trosglwyddo mwy na 100 o ffeiliau i’r heddlu.
Dywedodd ei bod hi wedi cael “braw” ar ôl derbyn llythyron a negeseuon e-bost cas, ac mae dau o bobol eisoes wedi ymddangos gerbron llys mewn perthynas â’r ohebiaeth.
Daw ei sylwadau ar drothwy lansiad ymgyrch drawsbleidiol newydd sy’n cael ei harwain gan Yvette Cooper.
Dywedodd Tasmina Sheikh-Ahmed wrth y Sunday Mail yn yr Alban: “Rwy wedi ceisio cadw’n dawel am y peth a heb siarad am y pethau hyn tan nawr. Rwy’n poeni am yr effaith y bydd siarad yn ei chael.
“Ond rwy’n fam i dair merch ac mae angen i fwy o bobol wybod sut mae hyn yn ein heffeithio ni a sut y gallwch chi deimlo wedi’ch di-raddio. Mae nifer o gydweithwyr hefyd wedi dioddef sylwadau sarhaus dros ben.
“Mae angen i ni gyfleu pan fo’n cyrraedd lefelau annerbyniol a phan fod ymosodiadau personol ag iddyn nhw islais rhywiol, ei bod yn sarhaus.”
Dywedodd hi ei bod hi wedi cael ei thargedu am ei bod hi’n ddynes ac yn Asiaidd, ac ychwanegodd ei bod hi wedi cael ei thargedu gan eithafwyr Islamaidd.