Mae 19 o bobol wedi cael eu hachub o’r Sianel ar ôl i’r dingi roedden nhw’n teithio ynddo fynd i drafferthion.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i arfordir Swydd Gaint am 11.40 nos Sadwrn.

Cafwyd hyd i’r dingi am 2 o’r gloch y bore.

Yn dilyn y digwyddiad, mae arweinydd y cyngor lleol yn Shepway wedi galw am ragor o oruchwyliaeth o’r ardal er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Daw’r digwyddiad ychydig ddiwrnodau ar ôl i 17 o ffoaduriaid honedig o Albania a dyn o wledydd Prydain gael eu harestio ar ôl i gwch gyrraedd marina Chichester ddydd Mawrth.

Cafodd y dyn 55 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac o gynorthwyo ffoaduriaid, tra bod y criw o Albania wedi’u harestio ar amheuaeth o ddod i wledydd Prydain yn anghyfreithlon.

Mae’r Swyddfa Gartref yn ystyried yr achos.

Fis diwethaf, cafodd dau ddyn o Iran eu darganfod mewn dingi oedd yn arnofio yn y Sianel.