Mae disgwyl i 90,000 o bobol ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint yr wythnos hon, wrth i’r drysau agor ddydd Llun.

Bydd yr Eisteddfod yn dechrau ar dir Ysgol Uwchradd y Fflint ddydd Llun.

Mae disgwyl i 15,000 o gystadleuwyr a hyd at 90,000 o ymwelwyr dyrru i’r Fflint ar gyfer wythnos o gystadlu, digwyddiadau gyda’r nos a gweithgareddau hwyliog y Maes.

Nos Sul, bydd sêr megis Mike Peters, prif leisydd yr Alarm, seren yn Broadway Mark Evans a’r gomediwraig Caryl Parry Jones yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol yn y pafiliwn.

Bydd mwy na 200 o ddisgyblion o ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn dwy sioe nos – ‘Fflamau Fflint’ yn y pafiliwn nos Fawrth, a’r sioe ieuenctid ‘Herspre’ nos Sadwrn a nos Lun yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn yn y Fflint.

Yn ogystal â phrif seremonïau’r wythnos, y cadeirio a’r coroni, a’r cystadlaethau amrywiol sy’n cael eu cynnal yn y pafiliwn, bydd digon i wneud a mwynhau ar y Maes.

CogUrdd a Minecraft

Yn y Gwyddonle, bydd ardal gemau a chyfle i greu maes eisteddfod delfrydol gyda’r rhaglen Minecraft.

Mewn ardal goginio bwrpasol ar y Maes, bydd Beca Lyne-Pirkis, un o sêr y Great British Bake Off, yn beirniadu rowndiau terfynol cystadleuaeth coginio’r Urdd, CogUrdd.

Bydd cyfle i roi tro ar y wal ddringo, cymryd rhan mewn gwahanol sesiynau chwaraeon neu fwynhau cyffro’r ffair.  Bydd bandiau byw, sioeau plant ac ardal fwyd hefyd. Ac am y tro cyntaf eleni, bydd gig yn cael ei chynnal ar y Maes ar y nos Sadwrn olaf.

Mae modd lawrlwytho ap Eisteddfod yr Urdd sy’n cynnwys map, rhestr o’r cystadlaethau a’r digwyddiadau ar y Maes, manylion trafnidiaeth a gwybodaeth arall yn rhad ac am ddim.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn: “Rydym wedi cael criw arbennig o wirfoddolwyr lleol eto eleni sydd wedi gweithio yn ddiflino dros y ddwy flynedd diwethaf yn codi ymwybyddiaeth ac arian tuag at yr Eisteddfod.

“Mae’r criw wedi llwyddo i basio’r targed codi arian a roddwyd iddyn nhw, sydd yn wych.

“Hoffem ddiolch hefyd i Ysgol Uwchradd y Fflint am gael defnyddio tir yr ysgol i gynnal yr Eisteddfod – mae’n Faes hyfryd eleni, ac mewn lleoliad heb ei ail.

“Mae ymchwil wedi dangos fod 94% o ymwelwyr yn cytuno fod Eisteddfod yr Urdd yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan felly byddem yn annog unrhyw un sydd rhwng dau feddwl i ddod draw a chael blas ar un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.”

‘Pleser’

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Aaron Shotton, “Mae’n wych fod Eisteddfod yr Urdd wedi dychwelyd i’r ardal.  Mae wedi bod yn bleser cynnig ein cefnogaeth i’r digwyddiad arbennig hwn.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed i lwyfannu’r digwyddiad hwn ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r Eisteddfod.  Mae pwyllgorau lleol wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn codi arian a miloedd o blant a phobl ifanc wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer cystadlu.

“Gobeithio y gwnaiff pawb fwynhau eu hymweliad gyda’r Eisteddfod.”