Ed Miliband, cyn-arweinydd Llafur (llun: PA)
Mae cyn-arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn rhybuddio y gallai methiant pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio roi buddugoliaeth ar blât i luoedd Brexit.
Fe fydd yn rhaid i bawb sy’n awyddus i bleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd y mis nesaf gofrestru erbyn 7 Mehefin.
Pryder Ed Miliband yw bod 1.5 miliwn o’r chwe miliwn o bobl ifanc rhwng 18 a 24 sydd â hawl i bleidleisio heb gofrestru i wneud hynny. Mae’r un peth yn wir am chwarter o’r wyth miliwn o bobl 25-35 oed.
“Mae heddiw’n alwad i’r gad i bob person ifanc gofrestru i bleidleisio,” meddai Ed Miliband.
“Gadewch inni fod yn glir am y perygl: mae penderfyniad i beidio â phleidleisio yn golygu gadael i rywun arall benderfynu eich dyfodol.
“Gall pobl ifanc benderfynu’r refferendwm hwn. Os nad oes arnyn nhw eisiau i’r ymgyrch Gadael gyfyngu gorwelion y byd maen nhw’n byw ynddo, mae’n hanfodol fod pobl ifanc yn cofrestru ac yn pleidleisio.”
Mae arolygon barn yn gyson wedi dangos mwyafrifoedd sylweddol o bobl ifanc o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond pobl hŷn yn llawer mwy tebygol o fod o blaid gadael.