Nid yw Benedict o blaid Brexit
Mae rhai o sêr Hollywood mwyaf adnabyddus gwledydd Prydain wedi arwyddo llythyr yn galw ar bobol i bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith yr enwau sy’n dweud y byddai’r celfyddydau ar eu colled os bydd Prydain yn gadael Ewrop, mae Benedict Cumberbatch, Syr Patrick Stewart, Bill Nighy, Chiwetel Ejiofor a Keira Knightley.

Hefyd mae enwau adnabyddus o fyd cerddoriaeth – fel Hot Chip, alt-J a Paloma Faith – wedi arwyddo’r llythyr.

Eraill o fyd y Celfyddydau yw’r awduron y Fonesig Hilary Mantel a John le Carre a’r cynllunydd ffasiwn y Fonesig Vivienne Westwood.

Mae’r llythyr mawr, sydd hefyd ag enw’r cyfarwyddwr ffilmiau byd-enwog, Danny Boyle a’r bardd o’r Alban, Carol Ann Duffy, yn cynnwys 282 o enwau yn cefnogi pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gall Prydain “golli ei lle”

Yn y llythyr, mae’r grŵp yn rhybuddio y byddai Prydain yn colli’i lle ar “lwyfan y byd” ac yn cael ei gadael yn “gweiddi o’r ochrau” petae’n dewis Brexit.

Daw’r llythyr wrth i Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol ddweud bod 96% o’i aelodau yn cefnogi aros yn Ewrop, wrth i ddyddiad y refferendwm – 23 Mehefin – agosáu.

“O’r galeri lleiaf i’r ffilm fwyaf, mae llawer ohonom wedi gweithio ar brosiectau y byddai byth wedi digwydd heb gyllid hanfodol yr Undeb Ewropeaidd, neu heb gydweithio ar draws ffiniau,” meddai’r selebs yn eu llythyr.

“Dydy Prydain ddim yn unig yn gryfach yn Ewrop, mae’n llawer mwy creadigol, a byddai ein llwyddiant creadigol rhyngwladol yn cael ei wanhau’n ddifrifol drwy gerdded i ffwrdd.”

Undeb Ewropeaidd wedi “methu”

Fodd bynnag, mae sylfaenydd y gyfres boblogaidd, House of Cards, y Ceidwadwr, yr Arglwydd Dobbs, yn anghytuno.

Dywedodd fod diwydiannau creadigol Prydain yn gwneud yn dda am fod “talent yn DNA Prydain”.

“Mae’n llwyddiant sydd wedi cael ei greu drwy ymroddiad, gwaith caled a galluoedd creadigol anhygoel ein hartistiaid, ddim am ein bod yn rhan o’r UE,” meddai, cyn ychwanegu bod yr Undeb yn “methu”.

Mae David Cameron wedi ymweld â Stiwdios Abbey Road yn Llundain i gyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiannau creadigol ac i drafod y llythyr.