Bydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn teithio i Ffrainc mewn campervan gofio ar ba ochr o'r ffordd ddylen nhw fod yn gyrru! (llun: CC2.0/TheTurfBurner)
Mae cefnogwyr pêl-droed fydd yn gyrru i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 wedi cael eu rhybuddio i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod am reolau ffordd y wlad cyn teithio.
Daw hyn yn dilyn arolwg sydd wedi awgrymu bod 35% o yrwyr ddim yn gwybod fod yn rhaid iddyn nhw yrru ar yr ochr dde o’r ffordd ar ôl croesi’r Sianel.
Roedd 78% hefyd yn credu – yn anghywir – bod y lefel a ganiateir ar gyfer yfed a gyrru yn Ffrainc yn uwch nag ym Mhrydain.
Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr Cymru deithio i’r wlad fis nesaf ar gyfer y bencampwriaeth, gyda llawer ohonynt yn bwriadu gyrru draw neu logi camper vans pan fyddan nhw yno.
‘Testun pryder’
Mae angen i yrwyr yn Ffrainc gario nifer o offer gwahanol yn eu cerbydau wrth deithio gan gynnwys triongl rhybuddio, trawsnewidydd golau, sticer gwlad a siaced lachar.
Ond yn ôl arolwg, dim ond 39% o yrwyr oedd yn gwybod fod angen siaced o’r fath yn y car os oedden nhw’n teithio i Ffrainc.
Mae’r lefel o alcohol a ganiateir wrth yrru yn Ffrainc hefyd yn 50mg am bob 100ml o waed – tipyn is na’r 80mg a ganiateir yng Nghymru a Lloegr.
“Mae’n destun pryder y gallai cymaint gael eu dal yn camsefyll oherwydd rheolau ffyrdd tramor,” meddai Rod Jones o uSwitch.com, wnaeth gomisiynu’r arolwg.
“Mae’n werth sicrhau bod eich polisi yswiriant car yn cynnwys teithio yn Ewrop.”