Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ferched ifanc yn eu harddegau sy’n cael eu gwenwyno wrth yfed alcohol, yn ôl gwaith ymchwil.

Roedd arbenigwyr wedi edrych ar gofnodion meddygon teulu ac wedi darganfod bod cynnydd o 27% mewn achosion o’r fath – gan gynnwys achosion damweiniol, hunan-niweidio’n fwriadol a gwenwyno wrth yfed alcohol – rhwng 1992 a 2012.

Roedd 17,862 o achosion o wenwyno ymhlith merched yn eu harddegau yn y DU rhwng 1992 a 2012, yn ôl ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Injury Prevention.