Mae’r ymgyrch yng Nghymru i adael Ewrop wedi dweud bod gwir lefelau mewnfudo i Brydain o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, dros ddwbl y ffigurau swyddogol.

Yn ôl Vote Leave, dydy ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) dros y pum mlynedd ddiwethaf a nifer y rhifau yswiriant cenedlaethol sydd wedi’u rhoi i ddinasyddion o Ewrop ddim yn cyd-fynd.

Rhwng mis Gorffennaf 2010 a mis Mehefin 2015, roedd 990,000 o bobol wedi cyrraedd Prydain o Ewrop, er bod 2.23 miliwn o rifau yswiriant cenedlaethol wedi cael eu cyflwyno yn yr un cyfnod.

Fodd bynnag, mae’r Swyddfa Ystadegau yn dweud mai mewnfudwyr sy’n dod i’r DU am gyfnodau byr yw’r rheswm y tu ôl i’r bwlch mewn ystadegau.

Vote Leave heb gael eu darbwyllo

“Mae’r ffigurau hyn, nad oedd Llywodraeth y DU am i chi eu gweld, yn dangos y pwysau anferth sydd ar wasanaethau cyhoeddus gan fewnfudo o’r UE,” meddai Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, sy’n ymgyrchu dros bleidlais i adael.

“Yr hyn rydym yn gwybod nawr yw bod maint ac effaith mewnfudo o’r UE yn llawer uwch na’r hyn oedd yn cael ei gyfaddef yn flaenorol, ac mae’n amlwg yn rhoi straen fawr ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, tai, ysgolion a gwasanaethau eraill.”

Apeliodd ar bleidleiswyr i bleidleisio dros adael yr Undeb ar 23 Mehefin, er mwyn “cymryd rheolaeth o’n ffiniau a lleihau lefelau mewnfudo i lefelau synhwyrol.”

Mewnfudwyr yn “talu mwy o dreth”

Yn y cyfamser, mae data ar wahân sydd wedi’i gyhoeddi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn dangos bod mewnfudwyr o Ardal Economaidd Ewrop wedi talu £2.55 biliwn yn fwy o dreth na chawson mewn budd-daliadau.