Fe fydd y rheithgor yng nghwestau Hillsborough yn dychwelyd i’r llys heddiw i gyhoeddi eu dyfarniad ynglŷn â marwolaethau 96 o gefnogwyr pêl-droed yn nhrychineb chwaraeon gwaethaf Prydain.
Mae disgwyl i’r rheithgor o chwe dynes a thri dyn roi eu penderfyniad terfynol o 11yb bore dydd Mawrth. Fe fydd yn ddiwrnod emosiynol i deuluoedd y 96 o bobl fu farw ac mae disgwyl i nifer ohonyn nhw fod yn y llys yn Warrington i glywed y penderfyniad.
Bydd y rheithgor yn cyhoeddi eu penderfyniad ar ôl ateb holiadur cyffredinol yn cynnwys 14 o gwestiynau, yn ogystal â chofnod o amser ac achos marwolaeth pob un o gefnogwyr Lerpwl yn y trychineb ar 15 Ebrill 1989.
‘Lladd yn anghyfreithlon?’
Mae’n cynnwys cwestiynau ynglŷn â threfniadau’r heddlu cyn y gêm, y diogelwch yn y stadiwm, y digwyddiadau ar y diwrnod, ymateb y gwasanaeth brys i’r trychineb, ac a gafodd y cefnogwyr eu lladd yn anghyfreithlon.
Wythnos ddiwethaf roedd y rheithgor wedi awgrymu wrth y llys eu bod wedi dod i benderfyniad unfrydol ynglŷn â phob cwestiwn ar wahân i gwestiwn chwech, sy’n gofyn a ydyn nhw’n “sicr bod y rhai fu farw yn y trychineb wedi’u lladd yn anghyfreithlon?”
Roedd y crwner wedi dweud ddoe y byddai’n fodlon derbyn penderfyniad mwyafrifol a daeth cadarnhad yn ddiweddarach eu bod wedi dod i benderfyniad ynglŷn â’r cwestiwn.
Cyn iddyn nhw gael eu hanfon i ystyried eu dyfarniad ar 6 Ebrill dywedodd y crwner y byddan nhw’n cael ateb “ie” i gwestiwn chwech os oedan nhw’n sicr bod y Prif Uwch-arolygydd ar y pryd, David Duckenfield, wedi esgeuluso ei ddyletswyddau, a bod hynny wedi achosi’r marwolaethau.
Cefndir
Mae’r gwrandawiadau wedi cael eu cynnal ers mwy na dwy flynedd, ac mae’r rheithgor wedi clywed tystiolaeth gan oddeutu 1,000 o lygad-dystion.
Fe ddechreuodd y cwestau newydd ar 31 Mawrth 2014 yn Warrington ac mae dwsinau o deuluoedd y rhai fu farw wedi bod yn bresennol yn ystod y gwrandawiadau.
Ar ddechrau’r cwestau, dywedodd y crwner na ddylai unrhyw un o’r dioddefwyr gael y bai am eu marwolaeth.
Fe ddigwyddodd y trychineb yn ystod gem Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest wrth i filoedd o gefnogwyr gael eu gwasgu ar deras Leppings Lane.
David Duckenfield oedd wedi rhoi’r gorchymyn am 2.53yp i agor allanfa Giât C yn Leppings Lane, gan ganiatáu i 2,000 o gefnogwyr fynd i mewn i’r safle y tu ôl i’r gôl, a oedd eisoes dan ei sang.
Cafodd rheithfarnau o farwolaethau damweiniol a gofnodwyd yn y cwestau gwreiddiol yn 1991 eu diddymu yn dilyn adroddiad gan Banel Annibynnol Hillsborough yn 2012 ar ôl ymgyrch hir gan y teuluoedd.