Philip Hammond
Mae Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig ar ymweliad â Libya er mwyn dangos cefnogaeth i’r llywodraeth undod newydd sy’n cael ei chefnogi gan y Cenhedloedd Unedig.
Fe gafodd Philip Hammond ei dywys drwy ddiogelwch llym er mwyn cwrdd â’r Prif Weinidog Fayez Serraj sy’n cael trafferth sefydlu ei awdurdod yno.
Mae Gweinidogion Tramor yr Eidal, Ffrainc a’r Almaen eisoes wedi ymweld â Libya’r wythnos diwethaf ar yr un perwyl.
‘Cefnogaeth bellach’
Dywedodd Philip Hammond y byddai’r DU yn ymrwymo £10 miliwn mewn cymorth pellach ar gyfer y llywodraeth newydd i gyrraedd cytundeb cenedlaethol.
Mae hyn yn ychwanegu at gymorth presennol y DU i Libya, lle cafodd £12 miliwn ei neilltuo’r llynedd ar gyfer cymorth dyngarol.
Fel rhan o’r pecyn, fe fydd £1.8 miliwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithrediadau gwrthderfysgaeth, a £ 1.5 miliwn ar gyfer brwydro yn erbyn masnachwyr sy’n smyglo mewnfudwyr ar draws Môr y Canoldir i Ewrop drwy Libya.
“Mae Prydain a’i chynghreiriaid yn cefnogi’r Prif Weinidog Fayez Serraj a’i lywodraeth yn llawn wrth iddyn nhw geisio ailsefydlu heddwch a sefydlogrwydd ar gyfer Libya gyfan. Rydym ni tu cefn iddyn nhw wrth ddarparu cymorth pellach i Libya a’i phobol,” meddai.
‘Ceisio sefydlu diogelwch’
Fe glywodd Philip Hammond geisiadau hefyd am gymorth ychwanegol i gryfhau lluoedd arfog y wlad, wrth iddyn nhw geisio sefydlu diogelwch ar ôl pum mlynedd o anghydfod wedi’i ddominyddu gan wrthryfelwyr milwriaethus.
Ar yr un pryd, mae’r gorllewin yn bryderus i weld sut y bydd y llywodraeth newydd yn delio â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) sydd wedi sefydlu yn Sirte – cartref y cyn-unben Muammar Gaddafi.
Mae Gweinidogion wedi awgrymu fod y DU yn barod i helpu hyfforddi lluoedd arfog Libya ar gyfer gweithdrefnau yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd.
Er hyn, mae ffynonellau o Brydain wedi tawelu awgrymiadau fod y DU yn barod i anfon llu o 1,000 i Libya fel rhan o gynllun hyfforddiant rhyngwladol fyddai’n anfon 6,000.
Yn dilyn y sgyrsiau yn Libya, bydd Philip Hammond yn teithio i Lwcsembwrg i gyfarfod Gweinidogion Tramor ac Amddiffyn yr UE i drafod y sefyllfa yn Libya ymhellach.