Gary a Catrin Manning o Sir Gaerfyrddin yn yr orymdaith yn Llundain y prynhawn yma (llun: Stefan Rousseau/Gwifren PA)
Mae hyd at 50,000 o bobl wedi bod yn gorymdeithio ar hyd strydoedd canol Llundain y prynhawn yma mewn protest yn erbyn toriadau’r Llywodraeth.

Teithiodd dros 100 o fysus yn llawn gorymdeithwyr o bob rhan o Brydain i’r brotest a drefnwyd gan y mudiad People’s Assembly.

Wrth annerch y dorf ar gychwyn yr orymdaith, dywedodd cysgod ysgrifennydd Llafur dros ddatblygu rhyngwladol, Diane Abbot, mai ymladd llymder yw brwydr wleidyddol bwysicaf ein hoes.

“Llymder yw’r gwir fygythiad i’r Gwasanaeth Iechyd, sy’n rhwystro awdurdodau lleol rhag codi tai, sy’n gorfodi pobl o’u swyddi i gytundebau sero awr,” meddai.

“Llymder sy’n bygwth dyfodol ein pobl ifanc. Allwch chi ddim cael gwrthdystiad pwysicach na mudiad pwysicach na hwn.”

Hefyd yn cymryd rhan yn yr orymdaith roedd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite, Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol yr NUT, Christine Blower ac arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett.

‘Annhegwch’

Ymhlith y miloedd a deithiodd i Lundain ar gyfer yr orymdaith roedd Gary Manning a’i ferch Catrin o Sir Gaerfyrddin.

Roedd y ddau’n gwisgo masgiau pen mochyn – i gynrychioli elitiaeth pobl fel George Osborne a David Cameron, yn ôl y peiriannydd gwresogi 42 oed.

“Dw i’n meddwl bod yr holl system drethi mor annheg – mae’n anghymesur,” meddai.

Dywedodd iddo ddod i’r orymdaith gan fod ar ei ferch 13 oed eisiau dod.

“Dw i yma oherwydd mae’r Torïaid yn codi treth a dw i ddim yn meddwl ei bod yn deg fod pawb ym Mhrydain yn gorfod talu a’r cyfoethog yn cael peidio,” meddai Catrin.