Yr Ysgrifennydd Tremor Philip Hammond (llun: PA)
Mewn ymweliad â Beijing, mae’r ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi galw ar China i roi’r gorau i or-gynhyrchu dur.
Dywedodd iddo gael cyfarfod buddiol ag ysgrifennydd tramor China, Wang Yi, wrth drafod materion sydd o bwys i’r ddwy wlad.
“Fe wnes i bwyso ar China i ddwysáu ei hymdrechion i ostwng lefelau o gynhyrchu dur,” meddai.
“Ro’n i hefyd yn croesawu diddordeb posibl cwmnïau o China mewn buddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhrydain.
“Ein nod yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yn Port Talbot a ledled Prydain.”
Dywedodd hefyd fod Prydain a China yn ymrwymo i ddal i weithio gyda’i gilydd ar gryfhau eu cysylltiadau diplomyddol ac economaidd.
Roedd Philip Hammod ei ffordd i Hiroshima, Japan, gyfarfod gweinidogion tramor gwledydd y G7, ac fe fydd yn ymweld â Vietnam ar ôl hynny.