Iain Duncan Smith - wedi mynd
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, wedi dweud ei fod “yn methu deall ac yn siomedig” tros y modd “dramatig” yr ymddiswyddodd ei Weinidog Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, ddoe.

Mewn llythyr ymddiswyddo sy’n llawn ergydion i’r Prif Weinidog a’i lywodraeth, fe honnodd IDS fod y pecyn ariannol yng Nghyllideb George Osborne ddydd Mercher yr wythnos hon yn un wleidyddol hollol, ac fe honnodd ymhellach fod y Canghellor wedi rhoi’r gorau i’r egwyddor fod “pawb yn hyn gyda’i gilydd”.

“Ers peth amser, dw i wedi dod i gredu, yn groes graen, fod y newidiadau diweddara’ i fudd-daliadau i’r anab a’u holl gyd-destun, yn mynd gam yn rhy bell,” meddai Iain Duncan Smith yn ei lythyr.

“Er bod modd eu hamddiffyn mewn un ffordd gyfyng, ond does dim modd eu hamddiffyn yn wyneb y cyni cynyddol ac oddi mewn i Gyllideb sydd o fudd i’r rheiny sy’n talu’r gyfradd uwch o dreth.

“Fedra’ i ddim aros yn dawel tra bod rhai polisïau yn cael eu gweithredu at bwrpas gwleidyddol yn unig, yn hytrach nag er budd economaidd y wlad.”

Mae Iain Duncan Smith wedi mynd benben â David Cameron a George Osborne ar fater yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymddangos mai’r ffrae tros lwfansau PIP i bobol anabl oedd yr ergyd ola’.