Mae saith mlynedd o gyfraddau llog isel iawn wedi bod o fudd i fenthycwyr arian, ond mae pobol sy’n cynilo wedi dioddef – dyna gasgliad adroddiad newydd i’r maes.

Bu i bobol gydag arbedion yn y banc golli tua £160 biliwn mewn llog o gymharu â’r cyfraddau oedd ar gael yn 2008, yn ôl adroddiad gan Hargreaves Landown.

Mae’r ffigwr yn golygu bod pob cartref yng ngwledydd Prydain, ar gyfartaledd, wedi colli tua £6,000 mewn llog.

Ers 2009, mae cyfraddau cyfrifon banc ar gyfer cynilo arian, fel Isa, wedi haneru.

1.05% yw’r gyfradd fel arfer erbyn hyn, yn ôl y wefan ariannol Moneyfacts.

Er hynny, mae rhywfaint o obaith, gyda lwfans arbedion personol newydd yn cael ei gyflwyno o’r 6ed o  Ebrill ymlaen, sy’n golygu na fydd llawer o bobol yn talu unrhyw dreth ar eu llog.

Cyfraddau morgeisi ar eu hisaf

Mae cyfraddau llog isel yn newyddion da iawn i’r ddwy filiwn o bobol sydd wedi prynu cartref am y tro cyntaf, wrth i gyfraddau benthyg ddisgyn neu aros yn sefydlog.

Ac mae’r cyfraddau benthyg wedi golygu bod nifer y tai sy’n cael eu hailfeddiannu wedi gostwng i’w lefel isaf ers 11 mlynedd, yn ôl Cyngor Benthycwyr Morgeisi.

Roedd llai nag un mewn 100 o berchnogion cartrefi gyda morgeisi mewn ôl-ddyled y llynedd, y gyfradd isaf ers 2004.

3.4% yw’r cyfraddau morgeisi arferol ers mis Mawrth 2009, o gymharu â 5.8% dros y 10 mlynedd flaenorol.

Mae arbenigwyr wedi rhybuddio perchnogion cartrefi i gymryd gofal ac i ystyried y gall eu taliadau gynyddu yn y dyfodol.