George Osborne
Mae disgwyl i George Osborne roi sêl bendith i brosiectau rheilffordd sylweddol yng ngogledd Lloegr a Llundain yn ei Gyllideb ddydd Mercher.

Mae’n debyg y bydd y Canghellor yn cadarnhau cefnogaeth y Llywodraeth i gysylltiad rheilffordd cyflym HS3 rhwng Manceinion a Leeds a phrosiect Crossrail 2 i gysylltu Surrey a Swydd Hertford drwy orsafoedd yng nghanol Llundain fel King’s Cross, Victoria, Chelsea a Clapham Junction.

Daw’r datblygiadau ar ôl i’r Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol – a gafodd ei sefydlu gan y Llywodraeth yn 2015 i gynghori ynglŷn â phrosiectau hirdymor i hybu’r economi – ryddhau adroddiad yn galw am “fuddsoddiad brys a sylweddol” i drafnidiaeth yng ngogledd Lloegr.

Mae hefyd wedi galw am gynllun mwy hir-dymor i dorri amseroedd teithio, cynyddu capasiti a gwella dibynadwyedd y gwasanaethau.