Mae Aelod Seneddol ieuenga’ gwledydd Prydain wedi mynnu fod pensiynau gwladol yn hawl, nid braint, wrth iddi ymosod ar y Cynghellor, George Osborne, tros ei obsesiwn gyda thoriadau.

Fe ddefnyddiodd Mhairi Black, 21, araith yng nghynhadledd wanwyn plaid yr SNP yn Glasgow i danlinellu achos anghyfartaledd pensiynau.

Fe ddaeth Mhairi Black yn AS y llynedd, pan lwyddodd i ddisodli’r cyn-Aelod Llafur, Douglas Alexander, a dod yn gynrychiolydd etholaeth Paisley a De Swydd Renfrew yn San Steffan.

“Dw i’n dweud eto, oherwydd mae yna rai gweinidogion yn Llundain sydd ddim fel petaen nhw’n deall hyn – nid budd-dal ydi pensiwn, ond hawl,” meddai Mhairi Black.

“Mae ganddon ni Ganghellor sydd ag obsesiwn gyda thoriadau diangen, nes ei fod yn barod i gymryd gan bobol ifanc, cymryd gan yr anabl, mae’n fodlon cymryd gan y rheiny sydd ar gyflogau isel… ac rwan, mae’n cymryd gan ein pensiynwyr.

“Ac nid unrhyw bensiynwyr, ond merched sydd yn perthyn i genhedlaeth sydd wedi gorfod wynebu pob math o anghyfartaledd… a thrwy ymgyrch refferendwm 2014, fe ddywedwyd wrthan ni mai’r unig ffordd o gadw ein pensiynau’n saff oedd trwy bleidleisio ‘Na’.

“Dyma addewid sydd wedi’i dorri,” meddai Mhairi Black wedyn, “ac mae’n iawn i ni ofyn cwestiynau am addewidion yr unoliaethwyr.”