Mae cadeirydd cwmni EDF wedi dweud ei fod yn “hyderus” y bydd y gwaith o godi atomfa niwclear newydd Hinkley Point C yn mynd rhagddo.

Fe ysgrifennodd Jean-Bernard Levy, cadeirydd a phrif weithredwr Grwp EDF, at staff ddoe, gan ddweud fod llywodraethau Prydain a Ffrainc ill dwy yn gefnogol i’r gwaith – er bod y sefyllfa economaidd yn un “heriol”.

Mae trafodaethau’n parhau, meddai, gyda llywodraeth Ffrainc i geisio sefydlogi sefyllfa ariannol EDF, ac fe bwysleisiodd na fyddai’r cwmni’n ymrwymo i fod yn rhan o’r prosiect oni bai fod yr amodau’n iawn.

Mae oedi mawr wedi bod yn y cynlluniau i godi’r atomfa yng Ngwlad yr Haf oherwydd amheuon tros gyllido.

“Rwy’n sicr fod y prosiect hwn yn un da ar gyfer y grwp ac y bydd yr amodau’n iawn, yn y dyfodol agos, er mwyn gallu dechrau ar y gwaith,” meddai Mr Levy.