Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i gyfres o ladradau ar yr un stryd yn Abertyleri.

Fe gafodd pedwar o fusnesau ar Stryd yr Eglwys eu targedu nos Iau yr wythnos hon – y siop anifeiliaid anwes, The Coffee Shop, sioc bwci Ladbrookes, ac M & J Veg.

Fe gafodd arian ei ddwyn o bob un o’r siopau, ac fe gafodd sêff siop y bwci ei dwyn hefyd.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth, gan annog aelodau o’r cyhoedd i ffonio’r rhif 101 os welson nhw unrhyw beth a allai arwain at ddal y lladron.