Tony Blair
Tynged gwledydd Prydain yw “arwain Yn Ewrop” yn ôl Tony Blair.

Mae’r cyn-Brif Weinidog yn frwd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar ei gyd-ymgyrchwyr i ddadlau’r achos mewn modd “penderfynol” gydag “angerdd”.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y byddai Brexit yn “achosi difrod sylfaenol” i bobl gwledydd Prydain.

“Hoffwn weld yr ochr sy’n bleidiol i Ewrop yn dadlau eu hachos gydag ychydig o angerdd ac egni a dangos ein bod yn benderfynol o wneud safiad dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo,” meddai Tony Blair.

Mae Arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi ei feirniadu yn hallt am fod yn anweledig yn yr ymgyrch dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ac mae Tony Blair yn cyfaddef bod angerdd ac awch cefnogwyr Brexit yn ei bryderu. Dyna pam ei fod yn galw ar yr ochr ‘aros i mewn’ i ddangos mwy o ysbryd ac angerdd tebyg, meddai.