Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn fod yn un o'r gwleidyddion fydd yn annerch y brotest ar Trident (llun: Rwedland/CC4.0)
Mae disgwyl i filoedd o bobol ymgynnull i wrthwynebu adnewyddu system niwclear Trident mewn protest yn Llundain ddydd Sadwrn 27 Chwefror.

Fe fydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, arweinydd yr wrthblaid Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ymysg y rheiny fydd yn annerch yn ystod y dydd.

Un sydd wrthi’n trefnu’r brotest ydy Swyddog Ymgyrchu CND Prydain, Sara Medi Jones a bwysleisiodd fod “amseru’r brotest yn hollbwysig”.

“Rydan ni’n gwybod bod Prydain yn paratoi ar hyn o bryd at brynu arfau niwclear newydd,” meddai wrth golwg360 gan ddweud eu bod yn disgwyl pleidlais yn y Senedd o fewn yr wythnosau nesaf.

“Mae’n bleidlais unwaith mewn cenhedlaeth, oherwydd ’dan ni wedi bod efo’r system bresennol ers yr wythdegau.”

‘Codi ymwybyddiaeth’

Yn ôl gwrthwynebwyr y cynllun mae ffyrdd gwell o wario £167biliwn nag ar yr arfau, ond yn ôl y rheiny sydd o blaid cadw Trident maen nhw’n hanfodol i ddiogelwch Prydain.

Esboniodd Sara Medi Jones mai bwriad y brotest oedd ceisio dangos faint o wrthwynebiad sydd i Brydain yn cadw arfau niwclear.

“Mae paratoi’r brotest wedi codi dipyn o ymwybyddiaeth hefyd,” meddai gan esbonio y bydd CND Cymru yn cynnal protestiadau yn ystod y dydd yn y Rhyl a Llandudno.

Mae hefyd yn disgwyl tyrfa o’r Alban, lle mae llongau tanfor Trident wedi’i lleoli ar hyn o bryd, ac fe fydd ymgyrchwyr a swyddogion undebau llafur a heddwch yn cymryd rhan yn ystod y dydd.

‘Fawr o synnwyr’

Mynnodd nad yw’r dadleuon ynglŷn â phryderon am golli swyddi petai Trident yn cael ei ddiddymu yn dal dŵr.

“Dim ond tua 7,000 sy’n dibynnu’n uniongyrchol ar Trident, felly os ’da chi’n meddwl am hynny mewn perthynas â’r system sy’n mynd i gostio o leia’ £100 biliwn, dydy e ddim yn gwneud fawr o synnwyr economaidd,” meddai Sara Medi Jones.

“Mae’n gyllid mor anferth … [allai] gael ei wario ar ddiwydiannau eraill.

“Byddai miloedd o swyddi yn gallu cael eu creu, a gallent ddefnyddio sgiliau’r gweithwyr i adeiladu cychod neu ddatblygiadau ynni adnewyddadwy.”