Guto Bebb
Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb wedi cyhuddo Boris Johnson o ymddwyn yn “anghyfrifol” wrth i’r ffrae o fewn y blaid Geidwadol dros Ewrop barhau.

Ddydd Llun fe fu gwrthdaro yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng Maer Llundain, sydd wedi dweud ei fod am ymgyrchu i ‘adael’ yn y refferendwm, a’r Prif Weinidog David Cameron.

Mae Guto Bebb yn un o’r pump AS Ceidwadol o Gymru sydd wedi dweud ei fod o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd – yn wahanol i arweinydd ei blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies.

Ac yn ôl AS Aberconwy does dim sail i ddadl Boris Johnson y byddai modd ceisio taro bargen well i aros yn yr undeb petai pobol Prydain yn pleidleisio i ‘adael’.

Slap eiriol

Mae Maer Llundain eisoes wedi cael ei grybwyll yn un o’r ceffylau blaen yn y ras i olynu Cameron yn arweinydd y Torïaid.

Ac yn ôl Guto Bebb, sy’n cyfadde’ nad yw’n “ffan mawr o’r Undeb Ewropeaidd”, mae Boris Johnson yn ceisio chwarae gêm wleidyddol â’r Prif Weinidog ar fater sydd yn llawer rhy bwysig i hynny.

“Dw i’n credu bod Boris wedi gwneud camgymeriad tactegol sylweddol. Mae o’n datgan ei fod eisiau dod allan, ond os ydach chi’n darllen ei eiriau’n fanwl beth mae’n ei ddweud ydi ei fod o eisiau pleidleisio ‘allan’ er mwyn cael gwell cytundeb i aros i mewn,” meddai Guto Bebb.

“Mi ddaru [David Cameron] gymharu safbwynt Boris efo dadlau mai’r ffordd i achub priodas ydi dechrau camau ysgariad, a dw i’n credu bod Boris yn haeddu’r slap eiriol honno.”

‘Uchelgais bersonol’

Er bod ganddo “tipyn o feddwl o Boris Johnson”, awgrymodd Guto Bebb bod Maer Llundain yn meddwl mwy am ei “flaenoriaethau personol” yn hytrach na dilyn ei “egwyddorion”.

“Dw i’n credu ei fod o wedi gwneud drwg i’w enw da yn y ffordd y mae o wedi ymateb i’r sefyllfa yma, achos mae’n amlwg yn trio cael y gorau o’r ddau fyd.

“Ond y gwir ydi bod y refferendwm yma yn un difrifol; mi fydda’ i’n parchu’r canlyniad ac, os ydi’r canlyniad yn dweud bod Prydain yn gadael, mae Prydain yn gadael.

“I awgrymu bod posibilrwydd o bleidleisio i adael heb unrhyw risg, mae’n anghyfrifol a dweud y lleiaf. Dydi ei safbwynt o ddim yn gwneud synnwyr … achos dydi’r dewis yna ddim ar y bwrdd.”

Stori: Iolo Cheung