Tŷ'r Cyffredin
Mae system newydd Pleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig (EVEL) yn rhy gymhleth ac yn debygol o gael ei ddiddymu yn y dyfodol, yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.
Cafodd y rheolau newydd eu cyflwyno gan y Llywodraeth llynedd, ac mae’n golygu y gall ASau o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon gael eu hatal rhag cymryd rhan mewn rhai pleidleisiau yn San Steffan.
Y bwriad oedd ceisio lleihau dylanwad ASau o’r gwledydd datganoledig wrth bleidleisio ar faterion sydd yn effeithio ar Loegr yn unig.
Ond mae’r drefn gafodd ei chyflwyno gan y Ceidwadwyr wedi cael ei feirniadu’n hallt gan y pleidiau eraill, ac yn ôl y Pwyllgor Dethol Gweinyddu Cyhoeddus fe allen nhw fod yn ddim mwy nag “arbrawf tymor byr”.
Trafferth i’r Llefarydd
Dywedodd y pwyllgor nad oedd y system newydd yn cyd-fynd chwaith â Fformiwla Barnett, sydd yn cyllido’r tair gwlad ddatganoledig.
Cafodd EVEL ei argymell gan y Ceidwadwyr yn fuan wedi’r refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, ac fe awgrymodd y pwyllgor bod yr ymateb wedi cael ei gyflwyno gan y llywodraeth fel ateb brys.
Ond fe bwysleisiodd yr ASau bod “galw Saesnig cryf” hefyd am setliad cyfansoddiadol oedd yn datrys rhai o’r anghysondebau yr oedd datganoli wedi’i greu.
Llefarydd Tŷ’r Cyffredin sydd â chyfrifoldeb dros benderfynu a yw deddfwriaeth yn un ‘Lloegr yn unig’ ar hyn o bryd, ac yn ôl y pwyllgor fe allai hyn roi’r Llefarydd mewn safle lletchwith.
“Clercod profiadol yn Nhŷ’r Cyffredin ddylai fod wedi llunio’r Rheolau Sefydlog newydd [i sefydlu EVEL], yn hytrach na swyddogion y llywodraeth,” meddai cadeirydd y pwyllgor Bernard Jenkin.