Jeremy Corbyn
Mae’n bwysig fod Prydain yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, meddai arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, Jeremy Corbyn.
Dyna fyddai orau i bobol gwledydd Prydain, meddai, wrth iddo addo defnyddio’r refferendwm y mae’r Torïaid am ei gynnal, er mwyn “sefyll i fyny tros Ewrop sosialaidd” a “pherchnogaeth gyhoeddus”.
Er bod Jeremy Corbyn wedi bod yn ddrwgdybus iawn o Ewrop yn y gorffennol, mae wedi penderfynu pwysleisio yn ystod yr ymgyrch yn arwain at y bleidlais, fod angen mwy o ddiwygio ar Frwsel, a bod hynny’n cynnwys rhoi mwy o hawliau i weithwyr, a gwrthweithio’r duedd i breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae ein plaid ni wedi ymrwymo i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd ein bod yn credu mai dyna’r fframwaith orau ar gyfer masnach a chydweithio oddi mewn i Ewrop, a dyna sydd orau i bobol Prydain hefyd.
“Ond rydan ni hefyd eisiau gweld diwygio,” meddai, “a hynny o ran democratiaeth, hawliau cryfach i weithwyr, twf sy’n gynaladwy, a phwyslais ar greu swyddi wrth galon y polisi economaidd.
“Fe fyddwn ni’n pwyso am Ewrop sosialaidd go iawn yn ystod yr ymgyrch cyn y refferendwm,” meddai Jeremy Corbyn.