Mae David Cameron wedi rhoi addewid i roi £1.2 biliwn ychwanegol i helpu ffoaduriaid sy’n ffoi o’r rhyfel cartref yn Syria wrth i arweinwyr byd dod ynghyd yn Llundain i drafod yr argyfwng.

Fe fydd mwy na 70 o wledydd yn cael eu cynrychioli yn yr uwch-gynhadledd sy’n cael ei harwain gan Brydain, yr Almaen, Norwy, Kuwait a’r Cenhedloedd Unedig (CU).

Mae’r  CU yn apelio am £5.4 biliwn i ariannu gwasanaethau cymorth i’r 13.5 miliwn o bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi oherwydd y brwydro ffyrnig yn Syria.

Dywedodd David Cameron bod y cyfraniad diweddaraf gan Brydain, a fydd yn cael ei roi dros y pedair blynedd nesaf, yn dod a chyfanswm cyfraniad y DU ers dechrau’r argyfwng yn 2011 i £2.3 biliwn, ac y dylai hynny “osod y safon” i weddill y gymuned ryngwladol.

Mae’r Prif Weinidog hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r gynhadledd i drafod rhoi mwy o gefnogaeth i’r gwledydd sy’n ffinio Syria – yn bennaf Gwlad yr Iorddonen, Libanus a Thwrci – sydd ar hyn o bryd yn gartref i 4.6 miliwn o ffoaduriaid o Syria.

Mae’n dadlau bod darparu cyfleoedd i weithio a mynediad i wasanaethau yn hanfodol er mwyn dwyn perswâd ar y ffoaduriaid i aros yn y rhanbarth er mwyn eu hatal rhag peryglu eu bywydau yn teithio i Ewrop.